TAITH Y PERERINION

FelRh072Pererin.doc
20.08.02
3.9.02F1

Dydd Mawrth 13ydd o Awst, a’r niwl yn ddistaw godi o’r Cwm- y cwm tu allan i’r byd-gwelwyd rhes o geir yn heidio i faes parcio Croesor. Disgynyddion Lewis Mordecai y gwehydd a’i orwyrion Edwart, John a William Lewis oeddynt. William (1748 – 1825) oedd arloeswr yr Ysgol Sul gyntaf ym Mhlwyf Llanfrothen - tua 1787. Cynllun y diwrnod oedd ymweld a thri o safleoedd cysegredig i’r hen deulu h.y, Ty Newydd Cae Glas; Hafoty a’r Garreg Fawr yna rhodio’n ôl mewn amser, dyfeisio a cheisio dehongli ag egluro’r gorffennol pell i’r ddeuddegfed genhedlaeth- rhai ohonynt sydd yn dal i fyw yng Ngroesor heddiw.
Er fod yna gofnodion am y Mordecaiaid yn gwehydda dair canrif yn ôl – 1696, canolbwyntio ar amser ddwy ganrif yn ôl oedd y disgynyddion, ar y cyfnod byr 1780au i 1820au Yn y cyfnod 1773 i 1798 ganwyd i Margaret Lloyd a’i gwr William Lewis 13 o blant a sefydlwyd ysgol Sul yn Hafoty tua 1787. O’r teulu mawr yma bu farw rhai yn ifanc, collwyd eraill o hanes, ond daeth rhai yn enwogion e.e Griffith Dafydd Cynfal Fawr/Felenrhyd, William Dafydd Gelligoch Isaf/Brynderwen; Richard Owen (Glaslyn ) ; Humphrey Jones (Bryfdir); a’r Parch. D.D. Williams ,Garth Llwynog a gweinidog Methodistiaid ym Mheniel, Llan Ffestiniog (1895) a Manceinion wedyn – ac eraill, debyg.
Wedi i William Lewis adael yr ardal gwelwn ei fab, Dafydd Willliams a’i deulu yn byw yn Garreg fawr (cydrhwng 1810 a 1812 ganwyd Lowri a William yno), wedyn yn Hafoty, tua 1815, ac yn canlyn ymlaen gyda’r Ysgol yn Nhy Newydd Cae Glas; hyd ei farwolaeth, yn wr ifanc 36 , yn 1821. Yma yn Nhy Newydd y ganwyd Griffith Dafydd, Cynfal/Felenrhyd yn 1816- hen,hen,hen....daid i’r mwyafrif oedd ar y bererindod .(Yma hefyd ganwyd Bryfdir yn 1867). Yn y cyfnod 1788 i 1822 dylid dal sylw i J.R.Jones Ramoth, yr enwog ddiwynydd Bedyddwyr Albanaidd,letya yn Hafoty a’r Garreg fawr- megis â’r parad â’r teulu.
Wedi i bawb gyrhaedd (tros gant i gyd) ag am tua hanner awr yn dyfalu pwy oedd yn perthyn i pwy ag ar pa gangen neu frigyn deuluol oeddynt yn clwydo, cychwynwyd ar y daith- fel gyrr farus ag afreolus o ddefaid – a’r bugail,druan, gyda’i chwiban a’i gwn defaid diwerth!. Dringo yn serth ag i fyny heibio Capel Croesor ar hyd yr hen ffordd Rufeinig at Ffynnon Helen –lle y gwnaeth rhai ddymuniadau. Nepell daethant at y gamfa ger Ty Newydd...Disgrifiwyd yr amgylchedd ar y pryd, y môr â arferai ddod at Llanfrothen a Phont Aberglaslyn newydd ei ddofi gan Madog a’i Gob - yn 1811. Digon o lwybrau ond fawr o ffyrdd, dim trennau a cheir , prin ysgol neu lyfr; ond digon o blant.
Saif Ty Newydd hanner y ffordd i fyny’r boncen â wynebai’r haul ac a edrychai dros y Cwm ar y ffordd am Dany bwlch a heibio Penrallt. Ni wyddys sawl acer oedd daliad y tyddyn ond perthyn i stad fechan Caeglas oedd debyg ar y pryd. O amgylch y ty ‘roedd olion cadlas neu ardd. Ar ochor ogleddol yr adeilad gwelid hen feudy neu stabl.yn gogwyddo ar y ty. Tebygol i’r Hen Gaeglas, sydd ganllath yn is i lawr, gael ei defnyddio fel beudy a thy gwair.

Ers canrif bellach, mae’r hen Dy Newydd yn furddun ac wedi ei orchyddio â choed, brwyn a rhedyn Wrth edrych o du allan ar yr adfeilion, dychmygir yr adeilad gyda thô gwellt, un simna ar y talmaen gyda waliau cerrig sychion - bron lathen o drwch, gyda ffenestri bach. O fynd i mewn drwy’r drws isel i’r ystafell fyw - dim ond rhyw ugain troedfedd sgwar - dychmygir weld crôg lofft, llawr o grawiau neu bridd, bwrdd, cadair freichiau, setl, tân mawn a bara ceirch o amgylch.
Yn y 1920au,dyma fel y disgrifia Bryfdir y lle yn ei gan “ Bro fy Mebyd” (tud.101):-
Ffynnon Helen sydd yn gwenu
Drwy ei chwsg wrth droed y rhiw

Croesaf y gamfa, a brig y Maen Brâs
Wynebaf adfeilion Ty Newydd, Caeglas
Ty newydd a hen ydoedd hwn cyn i’nhaid
Roi llechi i’w doi yn lle crinwellt a llaid
Ei weld yn gyfanedd a wnaf, er mor freg
Yw muriau y bwthyn fu unwaith yn deg
A gormod o orchest i ddanadl na drain
Yw cuddio’r gogoniant fu gynnau mor gain
Disgrifiwyd bwysigrwydd ac unigrwydd y murddun hwn i fodolaeth y mwyafrif a oedd yn bresennol.
Diolch i Mrs Giovanna Bloor,sydd yn byw yng Nghae Glas, am ei brwdfrydedd â hanes Croesor, a’i chymorth yn clirio’r llwybr i Dy Newydd Cae Glas.
Y lle cyfarfod nesaf oedd Hafoty,sydd rhyw filltir i’r de o Groesor,oddiar y ffordd gul â arwenia am Dan y Bwlch. Croeswyd afon Maesgwm ag i fynny rhiw serth i gyfeiriad y goedwig. Saif y ty annedd yma o’r neilltu i’r goedwig yn wynebu golygfa fendigedig am Borthmadog. Daliad bach oedd beth amser yn ol, rhyw 990 o droedfeddi uwch y môr. Debyg fod y ty yn dyddio’n ol i amser y Tuduriaid a hwyrech ei fod yn ddau neu dri ty , gweithdy gwehydd neu feudy, ar wahanol dro..Heddiw mae’n gartref a thy cysurus i Lwsia ag Emyr – gweler y llun. Er ei fod yn lle gweddol unig, fel soniwyd uchod mae’r lle yn lle unigrwydd i’r teulu a ddechreuodd yr Ysgol Sul yma.
Hebryngodd Lwsia ni i mewn i’r ty hynafol ag anghyffredin hwn a dangosodd y llythrenau WL a’r dyddiad 1777 wedi ei naddu’n y traws derw uwchben yr hen le tân .
Ceiswyd disgrifio a dychmygu’r tai yma yn Hafoty, 200 mlynedd yn ol, gyda William Lewis ynghyd â’i deulu mawr a’i ysgol ar y Sul, Owen Sion a’i deulu’n gwehydda, ac yn rhyw gornel, J.R.Jones yn lletya, darllen, cyfathrachu, paratoi pregethau, a doctora. Wedi hir oedi ac ymdroi, planwyd coeden i gofio’n cyndadau ac ymweliad eu disgynyddion yn 2002. Bywiog oedd canu’r hen ffefryn, “Calon Lan”, cyn gadael. Bwriedir,cyn hir, rhoi carreg i nodi’r fan lle cynhaliwyd yr ysgol gyntaf yn y plwyf.
Ffarweliwyd â Hafoty a throi am i lawr. Croeswyd cae,nant a chamfa cyn mynd i dwllwch y coed pinwydd, ag ymuno â’r llwybr a arweinia am Garreg Fawr. Ar ol byw yn Hafoty hyd tua 1805 symudodd J.R.Jones i fyw yma, hyd ei farwolaeth yn 1822,fel y gwelwyd ar y garreg las sydd ar flaen y ty.Yn y cyfnod yma ‘roedd mab W.Lewis,Dafydd William a’i deulu yn byw yma hefyd. Fel soniwyd, yma y ganwyd William Dafydd, Bryn Derwen a’i chwaer hynaf,Lowri. Diolch i Mrs Pauline Cobbet am ei
charedigrwydd.
Erbyn hyn mi ‘roedd traed rhai o’r pererinion yn barod i eistedd i lawr ond ‘roedd hanner milltir arall i fynd nes cyrraedd y Ring yn Llanfrothen. Yno gwelwyd arddangosfa dda o ysgrifau, coed teuluol, ewyllysiau, cofnodion ag ysgrifau am hanes y teulu dros dair canrif o’r Mordecai â gasglwyd gan amrhyw o’r teithwyr. Er enghraifft, gweler lun o Griffith Dafydd , yn ei hen ddyddiau, gyda’i deulu yn Felenrhyd Fawr - tua 1890
I goroni’r cwbwl ‘roedd gwledd arall wedi ei pharatoi gan Nici ( un o’r disgynyddion) ag Emlyn., ei gwr. Cafwyd diwrnod a chyfarfod fyth gofiadwy wrth droedio’n ôl ar hyd hen lwybrau hanesyddol Croesor. Diolch hefyd i bawb o’r pererinion a ddaeth i fwynhau ei hunain, ag i wneud y diwrnod mor ddiddorol a llwyddianus.

Sheelagh, Edgar a Robin.
www.doctor.gp/Felenrhyd

Home ] Up ]The family of Felenrhyd and Ffor ] Sarah junior nee Jones Bryncyfergid ] Margaret ] Welsh Document Feb 2002 ] Y Cefn ] Stori Job ar Y Cefn ] Gruffydd Dafydd ] Bryn Cyfergid Cwm Cynfal ] Rhyd Ddu Beddgelert Family ] William Lewis and Margaret Lloyd ] Bryn Goleu and Margaret Davies ] Bryngoleu Tanygrisiau ] Children of Sarah Jones and Griffith Davies ] Griffith or Gruffudd ] Thomas Rees ] Kate Davies ] Richard Davies the Holyhead connection ] William Davies Family ] Aunty May Penygroes Problem ] Lowri-Laura-nee-Davies ] Relationship of Griffith Glaslyn Bryfdir DDWms ] Felenrhyd photographs ] Laura Roberts Dyffryn Clwyd ] Short Talk at Tynewydd Caeglas ] [ Taith y Pereinion ] Mordecai ] William Lewis ] Richard Jones Owen ] Teulu Ty Newydd ] Sunday School at Hafoty ] Memories of Old Caeglas ] Lloft Ty Llaeth ] Gallimurfry of Llanfrothen ] Plasdai Old and New ] Edmwnd Prys ]